Siarter Iaith Ysgol Gymraeg Llangennech

Dwy iaith, dwywaith y dewis!

Nod

Hybu iaith achlysurol drwy’r ysgol.

Creu ethos Gymreig.

Hybu brwdfrydedd am yr Iaith Gymraeg.

Annog ac ysbrydoli ein plant i ddewis defnyddio’r Gymraeg ymhob agwedd o’u bywydau.

Gweledigaeth Ysgol Gymraeg Llangennech

Ein gweledigaeth fel ysgol yw y bydd pob plentyn yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg ac yn dewis ei defnyddio ymhob agwedd o’u bywydau. Byddant yn ymwybodol o bwysigrwydd, nid yn unig yr iaith ond yr ymdeimlad o berthyn i ddiwylliant a thraddodiadau Cymreig.